2011 Rhif 1863 (Cy. 201) (C. 68)

TAI, CYMRU

Gorchymyn Deddf Tai ac Adfywio 2008 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2011

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

 

Y Gorchymyn hwn yw’r ail Orchymyn Cychwyn i’w wneud gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Tai ac Adfywio 2008 (“Deddf 2008”). Mae'n dod ag adran 309 (Fflatiau a fu gynt yn fflatiau hawl i brynu a fflatiau eraill: pryniadau cyfrannau ecwiti) o Ddeddf 2008 i rym ar 26 Gorffennaf 2011 er mwyn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau. Mae’r Gorchymyn yn dod ag adran 308 (Fflatiau a fu gynt yn fflatiau hawl i brynu a fflatiau eraill: benthyciadau at ffioedd gwasanaeth) o Ddeddf 2008 ac adran 309 i rym yn llawn o ran Cymru ar 19 Awst 2011.

Mae adran 308 yn diwygio adran 450C o Ddeddf Tai 1985 (“Deddf 1985”) mewn cysylltiad â benthyciadau at ffioedd gwasanaeth gan landlordiaid i lesddeiliaid i’w cynorthwyo i dalu ffioedd gwasanaeth, yn y fath fodd ag i ganiatáu i fenthyciadau o'r fath fod ar delerau nad ydynt yn delerau benthyciad sy'n dwyn llog.  Mae'r pŵer o dan adran 450C o Ddeddf 1985 wedi ei estyn i ddarparu ar gyfer codi ffi am wasanaethau'r prisiwr dosbarth.

Mae adran 309 yn mewnosod adran 450D yn Neddf 1985. Mae’r adran hon yn darparu y caiff yr awdurdod cenedlaethol priodol ddarparu drwy reoliadau, os awdurdod tai yw landlord fflat sydd wedi ei osod ar les hir i denant (lesddeiliad) sy'n atebol am dalu ffioedd gwasanaeth mewn cysylltiad ag atgyweiriadau neu welliannau i'r fflat, y caiff y landlord brynu, gyda chytundeb y tenant, fuddiant ecwitïol (cyfran) yn fflat y tenant i helpu’r tenant i dalu ffioedd gwasanaeth. Ystyr yr awdurdod cenedlaethol priodol yw Gweinidogion Cymru mewn perthynas â Chymru.

 

 

NODYN YNGHYLCH GORCHYMYN CYCHWYN BLAENOROL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Gwnaed un Gorchymyn Cychwyn cyn dyddiad y Gorchymyn hwn, a hwnnw'n cychwyn adran 315 o Ddeddf 2008 mewn perthynas â Chymru ar 30 Mawrth 2009 (gweler O.S. 2009/773 (Cy. 65)).

Mae amryw o ddarpariaethau Deddf 2008 wedi eu dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr gan yr Offerynnau Statudol a ganlyn:

O.S. 2008/2358, O.S. 2008/3068, O.S. 2009/363, O.S. 2009/415, O.S. 2009/773, O.S. 2009/803, O.S. 2009/1261, O.S. 2009/2096, O.S. 2010/862 ac O.S. 2011/1002.

Gweler hefyd adran 325(2) o Ddeddf 2008 ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar ddiwedd y deufis o'r dyddiad y cafodd Deddf 2008 ei phasio.


2011 Rhif 1863 (Cy. 201) (C. 68)

TAI, CYMRU

Gorchymyn Deddf Tai ac Adfywio 2008 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2011

Gwnaed                     25 Gorffennaf 2011

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd iddynt gan adran 325(3) a (4) o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008([1]) yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a chymhwyso

1.(1)(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Tai ac Adfywio 2008 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2011.

(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Cychwyn darpariaethau penodol yn Rhan 3 (materion landlord a thenant)

2. Mae adran 309 (Fflatiau a fu gynt yn fflatiau hawl i brynu a fflatiau eraill: pryniadau cyfrannau ecwiti) o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008 yn dod i rym ar 26 Gorffennaf 2011 er mwyn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau o dan adran 450D o Ddeddf Tai 1985.

3. Mae darpariaethau canlynol Deddf Tai ac Adfywio 2008 yn dod i rym ar 19 Awst 2011:

(1)     adran 308 (Fflatiau a fu gynt yn fflatiau hawl i brynu a fflatiau eraill: benthyciadau at ffioedd gwasanaeth); a

(2)     adran 309 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym. 

 

 

 

 

Huw Lewis

 

Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, un o Weinidogion Cymru.

 

25 Gorffennaf 2011



([1])           2008 p.17.